Rydym ni yma yn Amdanat yn ymfalchïo bod pob aelod o staff yn Gymraeg iaith gyntaf ac ein polisi yw cychwyn pob sgwrs yn y Gymraeg.
Ffasiwn diweddaraf
Does dim rhaid i chi fod yn byw mewn dinas fawr brysur i gael gafael ar y ffasiwn diweddaraf. Mae'r dewis o ddillad wedi cael ei guradu yn arbennig i gwsmeriaid Amdanat ac mae rhywbeth at ddant pawb o bob oed.
Dillad o safon
Mae'n holl bwysig i ni yma yn Amdanat bod y dillad o ansawdd ac o safon uchel. Mae'n hanfodol eich bod yn cael gwerth eich arian.