Terms of service
Amdanat – Telerau Gwasanaeth
Dyddiad diweddaru: Awst 2026
Croeso i Amdanat. Mae'r Telerau Gwasanaeth hyn yn nodi'r telerau sy'n berthnasol pan fyddwch yn prynu nwyddau gan Amdanat, naill ai yn ein siop yn Y Bala neu drwy ein gwasanaeth ar-lein.
Drwy brynu gennym, rydych yn cytuno i'r telerau hyn. Nid yw'r telerau hyn yn effeithio ar eich hawliau statudol fel defnyddiwr.
1. Gwybodaeth am Amdanat
Amdanat
58 Stryd Fawr
Y Bala
LL23 7AB
Cymru
E-bost: info@amdanat.cymru
2. Archebion a phryniant
Rydym yn gwneud pob ymdrech i sicrhau bod disgrifiadau, prisiau, maint a manylion ein cynnyrch yn gywir. Fodd bynnag, gall lliwiau ymddangos ychydig yn wahanol ar wahanol sgriniau a gall argaeledd newid.
Mae pob archeb ar-lein yn amodol ar argaeledd. Os na allwn gyflawni eich archeb, byddwn yn cysylltu â chi ac, os ydych eisoes wedi talu, byddwn yn trefnu ad-daliad priodol.
3. Prisiau a thaliadau
Mae'r pris a ddangosir ar adeg prynu yn berthnasol i'ch archeb, oni bai bod gwall amlwg wedi digwydd.
Rhaid talu am nwyddau ar adeg archebu ar-lein neu ar adeg prynu yn y siop.
Rydym yn cadw'r hawl i gywiro gwallau prisio neu wybodaeth cyn i archeb gael ei derbyn a'i hanfon.
4. Cyflenwi
Byddwn yn gwneud ein gorau i anfon archebion o fewn yr amserlen a nodir ar adeg prynu.
Gall oedi ddigwydd oherwydd amgylchiadau y tu hwnt i'n rheolaeth, gan gynnwys problemau gyda chludiant neu gyflenwyr.
Os na fydd eich archeb wedi cyrraedd o fewn yr amser disgwyliedig, cysylltwch â ni drwy info@amdanat.cymru.
5. Dychweliadau a chyfnewidiadau
Pryniannau yn y siop
Gellir cyfnewid neu dderbyn ad-daliad am eitemau a brynir yn ein siop o fewn 14 diwrnod, yn unol â'n Polisi Dychwelyd.
Gofynnwn i eitemau gael eu dychwelyd yn y cyflwr y cawsant eu prynu ynddo, gyda'r tagiau ynghlwm a'r pecyn gwreiddiol pan fo'n briodol.
Cadwch eich derbynneb fel prawf prynu.
Archebion ar-lein
Bydd angen i ni dderbyn yr eitem yn ôl yn ein siop yn y cyflwr y cafodd ei anfon, o fewn 14 diwrnod i chi ei dderbyn er mwyn cael ad-daliad neu gyfnewid.
Gofynnwn i bob eitem gael ei dychwelyd yn y pecyn gwreiddiol (pan fo’n briodol) gyda thagiau ynghlwm. Nid yw hyn yn effeithio ar eich hawliau statudol.
Chi fydd yn gyfrifol am sicrhau bod yr eitem yn cyrraedd ein siop mewn cyflwr perffaith felly cofiwch gadw hyn mewn cof pan fyddwch chi'n pecynnu'r eitem i'w anfon er mwyn atal unrhyw ddifrod i'r eitemau.
Mae Amdanat yn cadw'r hawl i wrthod dychwelyd nwyddau sydd wedi'u difrodi oherwydd na chawsant eu hail-becynnu'n briodol.
Ac eithrio nwyddau diffygiol a nwyddau wedi'u difrodi chi fydd yn gyfrifol am y post dychwelyd ac yn eich cynghori i gael prawf postio.
Canslo archebion ar-lein
Os dymunwch ganslo eich archeb a'i dychwelyd atom, o dan y Rheoliadau Gwerthu o Bell, rhaid i chi roi gwybod i ni o fewn saith diwrnod gwaith o dderbyn eich parsel.
Gellir gwneud hyn drwy gysylltu â Megan drwy Instagram neu e-bostio info@amdanat.cymru.
Rhaid dychwelyd yr eitemau i:
Amdanat
58 Stryd Fawr
Y Bala
LL23 7AB
Cymru
Gofynnwn i bob eitem gael ei dychwelyd yn y cyflwr y cafodd ei hanfon, gyda'r tagiau ynghlwm a'r pecyn gwreiddiol pan fo'n briodol.
Gallwch fod yn gyfrifol am gost dychwelyd nwyddau os ydych wedi newid eich meddwl, ac eithrio lle mae'r nwyddau'n ddiffygiol neu lle mae gennych hawl arall i gael y gost honno wedi'i thalu gennym.
Rydym yn argymell defnyddio gwasanaeth post sy'n rhoi prawf o bostio a chadw'r prawf nes bod eich dychweliad wedi'i brosesu.
6. Eitemau ar sêl
Mae ein Polisi Dychwelyd yn nodi nad yw eitemau ar sêl yn gymwys ar gyfer ad-daliad neu gyfnewid o dan ein polisi gwirfoddol.
Fodd bynnag, nid yw hyn yn effeithio ar eich hawliau statudol. Os yw eitem ar sêl yn ddiffygiol, heb fod o ansawdd boddhaol, yn anaddas at ei diben neu nad yw'n cyfateb i'r disgrifiad, efallai y bydd gennych hawliau statudol i gael ateb priodol.
7. Nwyddau diffygiol neu wedi'u difrodi
Os ydych yn derbyn eitem sy'n ddiffygiol, wedi'i difrodi neu nad yw'n cyfateb i'r disgrifiad, cysylltwch â ni cyn gynted â phosibl drwy info@amdanat.cymru.
Byddwn yn ystyried eich cais yn unol â'ch hawliau statudol fel defnyddiwr. Gall eich hawliau gynnwys atgyweirio, amnewid neu ad-daliad, yn dibynnu ar amgylchiadau'r achos.
Nid yw'r polisi hwn yn dileu nac yn cyfyngu ar unrhyw hawliau sydd gennych o dan gyfraith defnyddwyr.
8. Cyflwr nwyddau a ddychwelir
Wrth ddychwelyd eitem, gofynnwn i chi ei phecynnu'n briodol er mwyn atal difrod wrth gludo.
Gallwn ystyried cyflwr yr eitem wrth brosesu dychweliad. Os yw eitem wedi cael ei difrodi oherwydd pecynnu annigonol neu oherwydd defnydd y tu hwnt i'r hyn sy'n angenrheidiol i archwilio'r eitem, gall hyn effeithio ar swm unrhyw ad-daliad lle mae'r gyfraith yn caniatáu hynny.
9. Ad-daliadau
Unwaith y byddwn wedi derbyn a phrosesu dychweliad, byddwn yn rhoi gwybod i chi am ganlyniad eich cais.
Pan fo ad-daliad yn ddyledus, caiff ei wneud drwy'r dull talu gwreiddiol lle bo hynny'n bosibl.
Ar gyfer canslo archeb ar-lein o dan eich hawliau statudol, byddwn yn prosesu'r ad-daliad yn unol â'r rheolau perthnasol.
Gall gymryd peth amser i daliad ymddangos yn ôl yn eich cyfrif, yn dibynnu ar eich darparwr taliadau neu fanc.
10. Cyfnewidiadau
Lle bo cyfnewid yn cael ei gynnig o dan ein Polisi Dychwelyd, byddwn yn ceisio darparu'r eitem newydd yn amodol ar argaeledd.
Os nad yw'r eitem rydych ei heisiau ar gael, gallwn gynnig opsiwn arall neu ad-daliad lle bo hynny'n briodol.
11. Canslo archeb cyn ei hanfon
Os hoffech ganslo archeb ar-lein cyn iddi gael ei hanfon, cysylltwch â ni cyn gynted â phosibl drwy info@amdanat.cymru.
Byddwn yn gwneud ein gorau i ganslo'r archeb cyn ei hanfon. Os yw'r archeb eisoes wedi'i hanfon, efallai y bydd angen i chi ddilyn ein proses ddychwelyd.
12. Eich cyfrifoldeb chi
Rydych yn gyfrifol am sicrhau bod y wybodaeth a ddarperir gennych wrth archebu, gan gynnwys eich enw, cyfeiriad a manylion cyswllt, yn gywir.
Ni all Amdanat fod yn gyfrifol am broblemau sy'n deillio o wybodaeth anghywir a ddarparwyd gan y cwsmer.
13. Cwynion
Os ydych yn anfodlon â'ch pryniant neu unrhyw ran o'n gwasanaeth, rydym am glywed gennych er mwyn ceisio datrys y mater.
Cysylltwch â ni:
E-bost: info@amdanat.cymru
Cyfeiriad: Amdanat, 58 Stryd Fawr, Y Bala, LL23 7AB
Byddwn yn ceisio ymateb i'ch cwyn a'i datrys mor gyflym a theg â phosibl.
14. Hawliau statudol
Nid yw'r Telerau Gwasanaeth hyn, ein Polisi Dychwelyd nac unrhyw wybodaeth arall a ddarperir gennym yn effeithio ar eich hawliau statudol o dan gyfraith defnyddwyr y DU.
Lle mae unrhyw un o delerau ein polisïau yn gwrthdaro â hawl statudol na ellir ei heithrio, bydd yr hawl statudol honno'n berthnasol.
15. Newidiadau i'r Telerau Gwasanaeth
Gallwn ddiweddaru'r Telerau Gwasanaeth hyn o bryd i'w gilydd. Bydd y fersiwn ddiweddaraf ar gael drwy ein sianeli priodol.
Mae'r telerau a oedd yn berthnasol ar adeg eich pryniant yn berthnasol i'r archeb honno, oni bai bod y gyfraith yn mynnu fel arall.
Amdanat
58 Stryd Fawr, Y Bala, LL23 7AB
info@amdanat.cymru