Amdanom ni

Bwtîc ffasiwn sydd wedi ei leoli yn Y Bala, Gwynedd yw Amdanat. Sefydlwyd yn 2022 gen i, Megan Llŷn. Gyda chefnogaeth fy nheulu a fy ffrindiau, agorodd y drysau ar y 1af o Ragfyr a chafwyd noson agoriadol hynod lwyddiannus. Ers hynny, mae'r siop wedi mynd o nerth i nerth gan ddenu cwsmeriaid o ar hyd a lled Cymru, a thu hwnt.

Rydym yn falch o allu arddangos y labeli dillad Prydeinig ac Ewropeaidd gorau mewn gofod deniadol, cyfforddus a chwaethus.

Beth am yr enw Amdanat, felly? Wel, mae’r siop amdanat ti, y cwsmer. Rydw i eisiau i ti deimlo’n gyfforddus, hyderus ac yn arbennig wedi i ti gael y profiad o siopa gyda ni. Rho’r dillad newydd ’na amdanat a cher i daclo’r byd yn teimlo ac edrych yn wych!

 

Ein Lleoliad

Dewch draw i'n gweld yn y Bala lle cewch drio dillad ymlaen, gweld ein casgliad llawn o ddillad a chael sgwrs fach.